Main content

Siarad Anabledd

Mae 46% o bobl yn poeni am sgwrsio â phobl anabl. Gan fod 27% o bobl Cymru yn anabl, mae hynny’n llawer o sgyrsiau y gallem fod yn eu cael, a llawer o ffrindiau y gallem fod yn eu gwneud.

I newid hyn, mae angen i ni allu siarad. Felly rydyn ni’n lansio Siarad Anabledd i helpu i ddechrau’r sgyrsiau hynny, ac i roi’r hyder i bobl siarad heb ofn gwneud camgymeriad.

Siarad Anabledd – Gwyliwch Nawr

Dyma Paige Lea Walters yn rhoi’r hyder i chi sgyrsio a phobl anabl.

Beth sy’n bwysig yw siarad â phobl

Peidiwch â defnyddio eich llais gwasanaethau cwsmeriaid i siarad gyda fi
Paige Lea Walters, Nam dwys ar y golwg a’r clyw
  • Mae’r cam cyntaf yn hawdd – siaradwch â phobl anabl yn yr un ffordd ag y byddwch yn siarad â phawb arall.
  • Siaradwch yn eich tôn llais arferol. Peidiwch â bod yn nawddoglyd na siarad i lawr.
  • Byddwch yn naturiol, gan osgoi bod yn rhy wleidyddol gywir – bydd bod yn hynod sensitif i’r iaith a’r portreadau cywir ac anghywir yn eich atal rhag siarad ag unrhyw un.
  • Mae rhai pobl anabl angen ychydig mwy o amser i siarad – felly gadewch iddyn nhw. Peidiwch byth â cheisio siarad na gorffen brawddeg ar gyfer y person rydych chi’n siarad ag ef/hi.
  • Siaradwch yn uniongyrchol â pherson anabl bob amser, hyd yn oed os oes ganddynt gyfieithydd neu gyfaill gyda nhw.
  • Gofynnwch i berson anabl a oes ganddo unrhyw ofynion penodol o ran mynediad i gefnogi ei brofiad.

Defnyddio iaith bob dydd

Mae eich anghyfforddusrwydd chi yn gallu gwneud i fi deimlo’n anghyfforddus. Siaradwch, da chi!
Paige Lea Walters, Nam dwys ar y golwg a’r clyw
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl anabl yn gyfforddus gyda’r geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio bywyd bob dydd. Gall pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn ‘fynd am dro’ ac mae pobl sydd â nam ar eu golwg yn gallu bod yn falch iawn – neu beidio – ‘o’ch gweld’. Gall nam olygu bod rhai pethau’n cael eu gwneud mewn ffordd wahanol.
  • Dylid osgoi ymadroddion cyffredin sy’n cysylltu namau â phethau negyddol, er enghraifft ‘troi clust fyddar ar rywun’ neu ‘cau llygaid ar rywbeth’.
  • Os ydych chi’n ansicr o gwbl – gofynnwch i’r person anabl pa iaith yr hoffai i chi ei defnyddio!

Byddwch yn gadarnhaol

  • Osgowch ymadroddion fel ‘yn dioddef’ sy’n awgrymu anesmwythder, poen cyson ac ymdeimlad o anobaith.
  • Gall cyfeirio at bobl anabl fel pobl ‘agored i niwed’ awgrymu eu bod yn wan neu dan fygythiad. Gall hefyd arwain at wneud pobl yn fwy o darged ar gyfer trais yn y cartref, aflonyddu ar sail anabledd a throseddau casineb. Gall pobl anabl gael eu hunain mewn sefyllfaoedd agored i niwed yn aml oherwydd diffyg cefnogaeth ac arwahanrwydd cymdeithasol, a dylid mynd i’r afael â hyn.
  • Efallai na fydd defnyddwyr cadair olwyn yn ystyried eu hunain yn ‘gaeth’ i gadair olwyn – ceisiwch feddwl amdano fel cymorth symudedd yn lle hynny. Mae cadair olwyn yn aml yn dod a rhyddid i bobl anabl.

Mae’r canllawiau ar y dudalen we hon wedi cael eu hysgrifennu gyda chymorth Anabledd Cymru. Am fwy o wybodaeth ewch i:

Mwy o gynnwys am bob math o anableddau: