Rhaglen
- Tumblebird Contrails
- Nora Barnacle Assumes Commandworld premiere
- Symphony No. 1
Perfformwyr
- Ryan BancroftArweinydd
- Donal Bannister°Õ°ù´Ç³¾²úô²Ô
Cyfansoddwyr
DYNAMIG | FFRI | LLIWGAR
Mae’r Môr Tawel, gyda’i donnau mawr, y llif rhydd a’r sïo ar y tywod, yn gefndir i Tumblebird Contrails gan Gabriella Smith. Mae gwylanod dolefus a brain chwareus uwchben, a llwybr awyren rhithiol yn peintio lluniau ar draws drych yr awyr i gyfeiliant llanw a thrai’r môr yn y portread cerddorol argraffiadol hwn.
Mae Donal Bannister o Â鶹ÊÓƵAV NOW yn camu allan o’r gerddorfa ac i safle’r unawdydd yn y perfformiad cyntaf erioed o’r Concerto i’r °Õ°ù´Ç³¾²úô²Ô gan Simon Wills, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Donal, cyn i’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft barhau i archwilio gweithiau Charles Ives gyda Â鶹ÊÓƵAV NOW, y tro hwn gyda’i Symffoni Gyntaf. Mae alawon myfyriol yn cyferbynnu â themâu egnïol ac alawon tebyg i emynau sy’n frith o delynegiaeth esgynnol yn y symffoni Ramantaidd hon.