Rhaglen
- Carmen Overture
- Habanera from Carmen
- Chanson Bohème from Carmen
- Preludio sinfonico
- O mio Fernando from La Favourite
- Intermezzo Cavalleria
- Al pensar (Carceleras) from Las hijas del Zebedeo
- ‘Enigma’ Variations
Perfformwyr
- Nil VendittiArweinydd
- Niamh O'Sullivanmezzo soprano
LLAWN CYMERIAD| ANGERDDOL | DIGAMSYNIOL
Ymunwch â Â鶹ÊÓƵAV NOW a’r Artist Cenhedlaeth Newydd Niamh O’Sullivan ar gyfer ‘Noson yn yr Opera’ ym mis Medi.
Bydd yr arweinydd tanbaid, Nil Vendetti, yn ein harwain yn y gala hon o ffefrynnau operatig – o Carmen eiconig a hudolus Bizet, i O mio Fernando rhamantus hyfryd Donizetti, gan deithio heibio Preludio Sinfonico dramatig ac angerddol Puccini ac Intermezzo Cavalleria emynol Mascagni, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Yn yr un modd â darlunio cymeriadau mewn opera, mae Elgar yr un mor fedrus yn ei allu i bortreadu cymeriadau drwy gerddoriaeth, yn ei Enigma Variations, felly beth sy’n well i ddiweddu’r noson. Yn ysgafn ond eto’n aruchel, mae’r amrywiadau hyn yn gasgliad celfydd o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau a hunanbortread craff; mae enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr wrth i bob amrywiad gael ei labelu â llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau.