Rhaglen
- Symffoni Rhif 6 ‘Pastoral’
- Concert aria ‘Ah! perfido’
- Gloria, o’r Offeren yn C fwyaf
- Concerto Piano Rhif 4
- egwyl
- Symffoni Rhif 5
- Mass in C major (Sanctus)
- Piano Fantasia in G minor
- Choral Fantasy
Perfformwyr
- Carlo RizziArweinydd
- Steven OsbornePiano
- Alwyn MellorSoprano
- Jaime MartÃnArweinydd
- LlÅ·r WilliamsPiano
- Harriet EyleySoprano
- Angharad LyddonMezzo-soprano
- Alexander SpragueTenor
- Steffan Lloyd Owenµþ²¹°ù¾±³Ùô²Ô
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Am gyfnod o bedair awr ar noson hynod oer yn y Theater an der Wien, llwyfannodd Beethoven un o'r digwyddiadau cerddorol mwyaf nodedig erioed. Mae'r cyfle hyfryd hwn i edrych yn ôl yn dod â chyfoeth o dalent ryngwladol i gyflwyno rhai o ddarnau mwyaf eiconig Beethoven; roedd y cyngerdd gwreiddiol yn farathon o gyngerdd oedd yn cynnwys premieres ei 5ed a’i 6ed symffoni, a’i 4ydd concerto i'r piano a'r Ffantasi Corawl - bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i gofio’n ôl.
Digwyddiad y Bore:
11.30 – 1.50 Sgrinio Ffilm: In Search of Beethoven Lefel 1
Mae rhaglen ddogfen nodedig Phil Grabsky o 2017, In Search of Beethoven, yn edrych y tu hwnt i’r ddelwedd
o'r personoliaeth dioddefus, drwg dymer a gwallgof, i ddatgelu rhywun gwahanol iawn sydd hyd yn oed yn fwy
diddorol. Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond rhaid cael tocyn.
Cyn y Cyngerdd:
3pm-3.45pm Darganfod Mwy – Beethoven, Gwin a’r syniadau cerddorol y tu ôl i gyngerdd 1808 Lefel 1
Mewn digwyddiad arbennig gan Darganfod Mwy, bydd Tywysydd Darganfod Â鶹ÊÓƵAV NOW, Jon James, yn
cwrdd â Ron Merlino, yr arbenigwr gwin a cherddoriaeth o America, sy’n ymchwilio i berthynas agos
Beethoven â gwin. Wedyn, bydd Jon James yn edrych ar y cyngerdd mawreddog yn Fienna yn 1808,
a drefnwyd gan Beethoven ei hun, ac yn trafod y syniadau cerddorol sy’n ei glymu at ei gilydd.
Egwyl (6-7.30pm)
6.15-6.45pm (tua) Gornest ar y Piano rhwng Zoe Rahman a David Rees Williams Lefel 3
Fe wyddwn fod Beethoven yn un am gymryd rhan mewn gornestau byrfyfyrio. Yma, byddwn yn cyflwyno
themâu Beethoven mewn modd cyfoes drwy gelfyddyd byrfyfyrio ar y piano – a hynny yn arddull yr unfed
ganrif ar hugain.
6.50 – 7.20pm (tua) Noson Fawr Beethoven (Beethoven’s Big Night) Ystafell Llanelwy
Yn y sgwrs Gymraeg hon, bydd Geraint Lewis yn taro golwg ysgafn ar gyngerdd 1808.
-
Tocynnau: £15-£43
Consesiynau, Tocynnau Myfyrwyr a Thocynnau Teulu ar gael.
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ÊÓƵAV: 0800 052 1812 (Llun-Gwener).