Rhaglen
- Concerto Ffidil yn D
- O sacrum convivium
- Requiem
Perfformwyr
- Ludovic MorlotArweinydd
- James EhnesFfidil
- Rhian Loissoprano
- Neal DaviesBas
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Mae Concerto telynegol hyfryd Brahms i’r Ffidil fel pe bai’n mynegi enaid y ffidil. O’i alawon hyfryd, breuddwydiol a mawreddog i gainc tymhestlog y diweddglo, mae’r galw digyfaddawd am chwarae meistrolgar yn ei wneud yn ddarn perffaith i unrhyw fiolinydd. Gyda chyfuniad prin o feistrolaeth drawiadol, telynegiaeth dawel a sain bendant, mae’r feiolinydd o Ganada, James Ehnes, yn serennu fel unawdydd ar gyfer y gwaith hynod boblogaidd hwn.
Mae cyd-destun crefyddol i lawer o gerddoriaeth Messiaen, felly efallai ei bod yn syndod gwybod mai dim ond un darn o gerddoriaeth llais a ysgrifennodd erioed yn benodol ar gyfer yr eglwys, sef ei O Sacrum Convivium. Gydag ansawdd dyrchafol angerddol, mae’r darn eithaf dyrys hwn yn dawel a gwylaidd, ac yna’n codi i uchafbwynt mynegiannol wrth i’r darn sôn am ogoniant yn y dyfodol. I’r gwrthwyneb, ychydig iawn o gyflwyniad sydd ei angen ar Requiem Faure. Mae’n fwy personol o ran natur na’r darnau cyfatebol gan Verdi a Berlioz sydd yr un mor boblogaidd. Mae Requiem Faure yn ysgafn ac yn gysurus, gydag ymdeimlad dynol iawn o ffydd mewn gorffwys tragwyddol. Cyfareddol dros ben...