Tra aeth Mosolov ati i groniclo ysbryd diwydiant Sofietaidd newydd dewr yn hapus braf, i Shostakovich roedd y berthynas gyda'r chwyldro Sofietaidd yn gymhlethach. Roedd yn ddyn balch y bobl ond hefyd yn cael ei erlid yn gyson gan y wladwriaeth. Mae gan ei ddathliad o Chwyldro Hydref 1917 ryw fawredd rhyfedd, a sglein sinematig. Beth yw hanes y comisiwn yma? Ac a yw'r ddeuddegfed yn cyd-fynd â'r symffonïau rhyfel eraill, tywyllach.
Mae Sgyrsiau cyn y Cyngherddau wedi bod yn boblogaidd iawn y tymor hwn, felly archebwch docyn o flaen llaw a chyrhaeddwch yn gynnar er mwyn bod yn sicr o sedd.