Rhaglen
- Zemira Overture
- Cantata No 82, 'Ich habe genug'
- Symphony no. 26 in D minor, Hob. I:26 “Lamentationeâ€
- 5 Mystical Songs
Perfformwyr
- Harry BicketArweinydd
- Julien Van MellaertsBariton
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Mae ysbryd y Pasg, er ei fod yn gynnil, yn treiddio drwy’r cyngerdd hwn, gyda Harry Bicket yn dychwelyd i arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y Â鶹ÊÓƵAV. Y cyfansoddwr o Frasil, José MaurÃcio Nunes Garcia, fydd yn dechrau’r noson gyda’i Agorawd Zemira, ac mae’r bariton anhygoel, Julien Van Mellatens, yn perfformio Ich habe genug gan Bach. Mae’r gwaith hwn yn gwbl addas ar gyfer unrhyw gyngerdd y Pasg, gyda thestun sy’n adrodd hanes puro Mair ac yn cyhoeddi ei hawydd i ddianc rhag trallod y ddaear yn ôl at Iesu.
Nid oes llawer yn gwybod mai ar gyfer y Pasg y cafodd Symffoni Rhif 26 Haydn ei hysgrifennu, er pan edrychwn yn ddyfnach ar y gerddoriaeth, mae llawer o awgrymiadau amlwg. Cafodd ei hysgrifennu mewn Sturm und drang (storm a straen) nodweddiadol, mae’r awyrgylch dymhestlog a’r cywair lleiaf yn sail i ddyfyniadau o ganeuon plaen Passontide, sy’n fwy perthnasol i eglwys na’r neuadd gyngerdd. Hefyd ar gyfer y Pasg, ysgrifennwyd Five Mystical Songs gan Vaughan Williams, sy’n gosod pedwar testun o ‘The Temple: Sacred Poems’ gan y bardd a’r offeiriad o Gymru, George Herbert. Yn ysbrydol ac yn uniongyrchol wrth gyflwyno, mae’r pum symudiad yn cyferbynnu o ddistaw a myfyriol i weiddi o ganmoliaeth fuddugoliaethus.