Rhaglen
- Monolith: I Extend My Arms
- Violin Concerto
- Symphony No. 5 in E minor
Perfformwyr
- Ryan BancroftArweinydd
- Clara-Jumi KangFfidil
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Bydd y Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn mynd i’r podiwm ar gyfer ein taith ym mis Mawrth, gan gychwyn y cyffro gyda Monolith gan Tansy Davies: I Extend My Arms. Mae strata o ganonau fel craig, yn ddwys ac yn dryloyw, ac yn creu ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith ergydiol, rhythmig a bythgofiadwy hwn.
Gan agor gyda’r themâu mwyaf hudolus a mynegiannol, mae Concerto i’r Ffidil gan Sibelius yn llawn tensiwn a harmonïau synfyfyriol, ynghyd ag alawon hyfryd ac egni aruthrol. Mae’n bleser gennym groesawu’r feiolinydd aruthrol o dalentog, Clara-Jumi Kang, o dras Almaenig-Koreaidd i berfformio’r concerto gwych hwn, sydd mor gyffrous a meistrolgar ei gyfansoddiad ac sy’n galw am ddehongliad penigamp gan unrhyw berfformiwr.
Er bod Tchaikovsky wedi cael ei ysbrydoli gan gerddoriaeth werin gyfoethog ei wlad enedigol, gwrthododd agweddau cenedlaetholaidd Rwsia, ac nid oedd yn un o’r cymeriadau mwyaf poblogaidd yn ystod ei gyfnod. Fodd bynnag, mae ei gerddoriaeth yn sicr wedi parhau’n boblogaidd hyd heddiw, ac mae ymysg y gerddoriaeth y chwilir amdani fwyaf yng nghalendr cynulleidfaoedd heddiw, ac mae ei bumed symffoni yn brawf o hyn. Mae’r thema sy’n codi dro ar ôl tro, sef ‘ffawd’, wedi’i phlethu drwy gydol y symffoni ddramatig, hyfryd a nodedig hon, sydd wedi’i hysgrifennu’n feistrolgar gan un o’r symffonïwyr mwyaf sydd wedi byw erioed.