Perfformwyr
Gŵyl Bro Morgannwg
Yn un o brif gyfansoddwyr Tsieina, mae Qigang Chen bellach yn rhannu ei fywyd rhwng Beijing a Ffrainc lle bu’n astudio fel myfyriwr ôl-raddedig gydag Oliver Messiaen. Mae ei gerddoriaeth yn dwyn at ei gilydd ddylanwadau cerddorol y ddwy wlad gan gyfuno traddodiadau gwerinol Tsieina a thraddodiadau clasurol y Gorllewin. Nodweddir ei gyfansoddiadau cerddorfaol gan weadau a dilyniannau hynod gain, breuddwydiol eu naws, yn gymysg ag ystumiau dramatig trawiadol.
Sgwrs Cyn y Cyngerdd, 6.15pm: Cerddoriaeth Qigang Chen
Qigang Chen - L’eloignement for String Orchestra (12’)
Thierry Escaich - Psalmos (21’)
Bent Sørensen - Trumpet Concerto (16’)
Qigang Chen - Jiang Tcheng Tse (20') Premiere Ewropeaidd
Tocynnau: £16.50 (£13.50 cyn 1 Ebrill 2018)
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ÊÓƵAV: 0800 052 1812
Does dim tâl am godi tocynnau drwy Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ÊÓƵAV.
Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru: 02920 636464. Mae Canolfan y Mileniwm Cymru yn cymhwyso Ffi Bwcio o £1.50 wrth dalu â siec neu gerdyn dros y ffôn neu’n bersonol. Mae trafodion ar-lein yn destun Ffi Bwcio o £1. Ni chymhwysir ffi i docynnau a brynir yn bersonol ac y telir amdanynt ag arian.